Illminster (Nifarion CCA3.0)
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n ystyried bod marwolaeth dynes mewn car yng Ngwlad yr Haf yn amheus.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff mewn car oedd wedi’i losgi ar ôl i’r frigâd dân gael ei galw i gae yn Ashill ar heol yr A358 ger Illminister y bore yma.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi apelio am dystion.