Camera CCTV
Mae mwy na 200 o ysgolion yn defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) mewn toiledau ac ystafelloedd newid, mae ffigurau’n dangos heddiw.

Cafodd cyfanswm o 825 o gamerâu eu darganfod mewn toiledau a stafelloedd newid mewn 207 o ysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn ôl ffigurau gafodd eu darparu gan 2,000 o ysgolion.

Mae mwy na 100,000 o gamerâu CCTV mewn ysgolion uwchradd ac academïau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.

Cafodd y manylion eu cyhoeddi gan y grŵp ymgyrchu Big Brother Watch yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i 2,107 o ysgolion.

Roedd bron i un o bob 10 o ysgolion yn defnyddio camerâu CCTV mewn toiledau ac ystafelloedd newid, tra bod 54 o ysgolion ag un camera ar gyfer pob 15 o fyfyrwyr.

Dywedodd Nick Pickles, cyfarwyddwr Big Brother Watch: “Mae’r ymchwil yn codi pryderon difrifol am breifatrwydd plant ysgol ar draws Prydain gyda channoedd o ysgolion yn defnyddio camerâu mewn toiledau ac ystafelloedd newid.”

Ychwanegodd bod nifer y camerâu yn llawer uwch nag oedan nhw wedi ei ddisgwyl ac y byddai’r ffigyrau yn “sioc” i nifer o rieni.

“Mae’n rhaid i ysgolion fod yn onest ynglŷn â pham maen nhw’n defnyddio’r camerâu hyn a beth sy’n digwydd i’r ffilm.”