Mae’r cwymp yn nifer gwylwyr yr X-Factor wedi parhau wrth i’r bennod a ddangoswyd neithiwr ddenu tair miliwn yn llai na’r un bennod y llynedd.

Dim ond cyfartaledd o 8.2 miliwn o bobol wyliodd y rhaglen awr o hyd ar ITV1  a +1 neithiwr. Roedd yr un bennod y llynedd wedi denu 11.1 miliwn o wylwyr.

Roedd y rhaglen hefyd wedi colli 400,000 o wylwyr ers y bennod a ddarlledwyd yr wythnos diwethaf.

Mae’r ffigyrau hyd yma yn awgrymu bod diddordeb yn y sioe wedi pylu yn sylweddol o’i gymharu ag uchelfannau 2010.

Ond er gwaethaf y wymp yn nifer y gwylwyr, dywedodd ITV mai’r X-Factor oedd y mwyaf poblogaidd ar deledu Prydain neithiwr.