Mae’r artist Alana Tyson, sy’n byw yn Llandudno, wedi trawsnewid gofod arddangos TestBed yn le sy’n herio, yn drysu ac yn tanio’r synhwyrau.
Interior yw corff newydd o waith, lle mae Alana Tyson yn archwilio deunyddiau sy’n aml yn cael eu defnyddio yn y gwaith o adeiladu llefydd tu mewn, fel leinin eirch neu focsys siocled.
Mae’n cynnig cipolwg i mewn i’r siambrau personol a phreifat hyn, sy’n aml yn cael eu cuddio o’r olwg.
“Mae gen i ddiddordeb mawr ar sut gall y marciau symlaf gael eu cymysgu i greu darluniau diddorol,” meddai Alana Tyson wrth Golwg 360.
“Mae’r gwaith yma’n gasgliad dw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers 2005, a’r prif ysbrydoliaeth ydy ‘beth sydd ar y tu fewn sy’n cyfrif’,” meddai arlunydd, wnaeth symud i Gymru bum mlynedd yn ôl.
Yn ystod ei phlentyndod, mae hi’n cofio ei mam yn dweud wrthi fyth a beunydd, “Beth sydd ar y tu mewn sy’n cyfrif”.
Roedd ei mam yn cyfeirio at ei ffrindiau, ond dyma a ysbrydolodd Alana i greu bydoedd ffantasi bychain, rhai o focsys esgidiau ac eraill mor fach â chneuen Ffrengig.
Fel plentyn, roedd y strwythurau maint poced hyn yn cynnig lle diogel a hapus, ‘tu mewn’ mewnddrychol.
Nawr mae hi’n creu bydoedd maint bywyd gwahanol y gallwch fynd i mewn iddynt.
Mae ffabrigau moethus yn cael eu gwnïo â llaw mewn patrymau rhythmig sy’n ymddangos fel pe baent yn rhaeadru, ffrydio a llifo.
Bydd yr arddangosfa yn Oriel Davies o Medi 15 hyd Tachwedd 7
Llinos Dafydd