Y Niwl
Fory, bydd Llanrwst yn fwrlwm o gerddoriaeth a stondinau o bob math, wrth i Ŵyl Gwydir gael ei chynnal, sy’n Ŵyl gerddoriaeth amgen annibynnol.

Bydd yna 20 o fandiau’n perfformio ar tair llwyfan yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy, yn ogystal ag ardal i’r plant, fan bwyd a stondinau arywiol.

O feddwl nad yw’r Ŵyl yn derbyn arian cyhoeddus, ‘rhaid gweithio’n galetach’ meddai un o’r trefnwyr, Gwion Schiavone, wrth Golwg 360.

“Mae o’n lot o waith, rydan ni gyd yn ei wneud yn wirfoddol. Criw bychan iawn ohonon ni sydd, a dydan ni ddim yn derbyn unrhyw arian cyhoeddus, felly mae’n rhaid gweithio’n caletach.”

Mae’r Sîn Roc Gymraeg yn ‘iach’ iawn ar hyn o bryd, meddai, ac mi fydd yna amrywiaeth o fandiau yn perfformio dros y penwythnos o wahanol genres, yn cynnwys Racehorses, Y Niwl, Dyfrig Evans a Tecwyn Ifan.

“Bydd 20 o artistiaid yno. Wnaethon ni holi dipyn mwy, ond doedd rhai ddim ar gael ac ati. Mae hyn yn dangos pa mor iach ydy’r Sîn ar hyn o bryd.”

Bydd yna gig heno i ddechrau’r penwythnos, gyda Bob Delyn a’r Ebillion, Sen Segur, Tecwyn Ifan a’r Plu.