Rhian Morgan, wedi ei henwebu am wobr yr Actores Orau
Yn dilyn cyhoeddi enwebiadau BAFTA yng Nghymru neithiwr, mae Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, yn ymfalchïo yn y gwaith caled gan bawb sydd ynghlwm â’r cynyrchiadau.

“Rydym yn falch iawn o dderbyn cymaint o enwebiadau unwaith eto eleni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru

“Mae dramâu poblogaidd y Sianel yn amlwg iawn ymhlith y rhestr eleni gyda chydnabyddiaeth nid yn unig i waith yr actorion, awduron a’r cyfarwyddwyr ond i dalentau pellach y tu ôl i’r llenni sy’n cyfrannu cymaint at lwyddiant y cynhyrchiad.

“Mae nifer yr enwebiadau yn gydnabyddiaeth o dalent a gwaith caled cynhyrchwyr rhaglenni’r sector annibynnol ar gyfer S4C.”

Mae rhaglenni S4C wedi derbyn 37 enwebiad ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2012, gyda dramâu’r Sianel yn hawlio 19 ohonynt.

Y gyfres ddrama mewn ysgol uwchradd Gwaith/Cartref sydd wedi hawlio’r nifer fwyaf o enwebiadau ar rhestr BAFTA Cymru eleni gyda chwech enwebiad. Yn ogystal ag enwebiad yn y categori Drama Deledu Orau i’r cynhyrchiad gan Fiction Factory, mae’r actores Rhian Morgan, sy’n chwarae rhan yr athrawes Gwen Lloyd, wedi ei henwebu am wobr yr Actores Orau.

Derbyniodd y gyfres hefyd enwebiadau am waith Dylunio Cynhyrchiad (William F. Bryce), Golygu: Ffuglen (Mike Hopkins/ Rhys ap Rhobert), Coluro a Gwallt (Gwenno Penrhyn) a Dylunio Gwisgoedd (Sian Jenkins).

Mae Siwan Jones, awdures y ddrama Alys, wedi ei henwebu am wobr yr Awdur Gorau am y cynhyrchiad gan Teledu Apollo, sy’n dychwelyd i S4C ym mis Tachwedd. Dyma un o bum enwebiad i Alys sydd hefyd yn cynnwys y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen (Gareth Bryn), Cerddoriaeth Wreiddiol (Strange Village), Dylunio Cynhyrchiad (Gerwyn Lloyd) a Ffotograffiaeth a Goleuo (Richard Wyn Hughes).

Mae’r enwebiadau eraill yn cynnwys y ffilm hir Patagonia; Ras yn Erbyn Amser; Gary Speed: Teyrnged; Dim Byd a llawer mwy.

Deugain enwebiad i BBC Cymru Wales

Mae BBC Cymru Wales wedi debyn deugain o enwebiadau am Wobrau BAFTA Cymru 2012.

Daw’r enwebiadau blaenllaw mewn 24 categori gwahanol, o’r Gyfres Ffeithiol Orau (Beautiful Lives (Bulb) a Human Planet), i’r Rhaglen Orau i Blant (The Sarah Jane Adventures), y Rhaglen Ddogfen Sengl Orau (Code Breakers: Bletchley Park’s Lost Heroes, Passion in Port Talbot: It Has Begun (Prospect Cymru)) gyda Taro Naw a’r rhaglen bell-gyrhaeddol Week In Week Out: Cash for Qualifications ill dwy yn cael eu henwebu am y Rhaglen Materion Cyfoes Orau

“Mae ystod yr enwebiadau BAFTA Cymru eleni’n dangos yr awch a’r dalent sydd gan ein timau cynhyrchu ni – yma’n fewnol yn BBC Cymru Wales ac ar draws y sector annibynnol,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales.

“Mae’n wefreiddiol gweld y BBC yn taro’r nod yn y Gymraeg a’r Saesneg, drwy ei hallbwn i gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r llwyddiant anhygoel yma.”

Cynhelir seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2012 yng Nghanolfan y Mileniwm ar 30 Medi.