Mae plant Gwynedd yn cael y dechrau gorau i fywyd o ddarllen a dysgu, yn sgil gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.

Mewn adroddiad diweddar ynglŷn â sut mae cynllun Dechrau Da Llywodraeth Cymru yn cael ei weithredu yng Ngwynedd, nodwyd fod y Gwasanaeth Llyfrgell yn dilyn ymarfer gorau.

Drwy’r cynllun, mae pob plentyn yn derbyn pecyn o lyfrau dwyieithog pan maent yn naw mis oed ac un arall pan yn ddyflwydd.

Bwriad y cynllun Dechrau Da yw meithrin cariad at lyfrau ac ysbrydoli dysgu ymysg plant, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Mae’r cynllun wedi bod yn weithredol yn y sir ers 12 mlynedd.

Nodwyd mewn adroddiad diweddar ar y cynllun Dechrau Da yng Ngwynedd: “Trwy’r amser a’r adnoddau a roddir gan y Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd a thimau ymwelwyr iechyd ledled yr awdurdod y mae’r rhaglen Dechrau Da yn cyrraedd 100% o blant bach – ystyrir hyn yn ymarfer gorau.”

“Fel mae llawer ohonom yn gwybod, mae darllen gyda phlentyn yn hynod bwysig er mwyn datblygu sgiliau siarad a deall,” meddai Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros y gwasanaeth llyfrgelloedd.

“Mae’r cynllun Dechrau Da yn annog teuluoedd i rannu storïau neu gerddi gyda’i gilydd.

“Trwy gymryd pum munud bob dydd i fwynhau ychydig o amser gyda’ch plentyn yn darllen byddent yn siŵr o gael budd ohono.

“Cofiwch, mae dewis eang o lyfrau ar gyfer plant ym mhob llyfrgell yng Ngwynedd, ac mae croeso cynnes i aelodau newydd o bob oed. Mae bod yn aelod o’r llyfrgell yn ffordd wych o annog plant ddysgu ac i feithrin darllenwyr am oes. ”