Marillion
Gyda’r band roc Marillion yn dechrau eu taith o gwmpas Prydain yng Nghaerdydd y penwythnos yma, mae gan gitarydd y grŵp, Steve Rothery, atgof ‘rhyfedd’ o aros yng Ngwynedd.

Meddai wrth y Western Mail am ei brofiad o aros mewn stiwdios yng Ngwynedd, mai dyna oedd “un o’r llefydd mwyaf rhyfedd dw i wedi bod iddo… cyfuniad o stiwdio ymarfer a chomiwn hipi.”

Roedd hynny yn ôl yn 1983, pan oedden nhw’n paratoi ar gyfer eu hail albwm, Fugazi.

“Mae’n reit anghysbell, felly Duw a ŵyr sut wnaeth y cwmni recordio ffeindio’r lle… Dw i’n cofio gweld cerrig Cylch yr Orsedd ar fryn tu ôl i’r tŷ, ac roedd pawb arfer mynd yno i eistedd arnyn nhw.”

Bydd Marillion yn perfformio ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Sul yma.