Penwythnos nesaf, bydd yna Ŵyl o’r newydd yn digwydd mewn pentref bach yng nghefn gwlad Sir Gâr.

Ar ôl i ddrysau’r ysgol bentref gau yn Llanfihangel-ar-arth, rhwng Llandysul a Phencader, yn 2003, daliodd y pentrefwyr ati i feddiannu a defnyddio’r adeilad am 8 mlynedd tra roedd statws ei berchnogaeth (fel ysgol wirfoddol eglwysig) yn aneglur.

Prynwyd yr adeilad o’r diwedd llynedd gyda chymorth yr Eglwys yng Nghymru. Nawr mae Cymdeithas Neuadd yr Ysgol wedi cyhoeddi eu bod wedi ennill grant o bron £5000 o Gynllun Datblygu Cymru Wledig i drefnu blwyddyn o weithgareddau diwylliannol yn yr adeilad gan gychwyn gyda Gŵyl Glyndwr y penwythnos nesaf.

“Gwrthododd y pentre farw ar ôl cau’r ysgol,” meddai Meinir Ffransis, ysgrifennyd Cymdeithas Neuadd yr Ysgol, “ac fe ddalion ni ati dros y blynyddoedd i drefnu gweithgareddau i gynnal y gymuned.”

“Erbyn hyn, mae’n anos denu pobl yn eu harddegau a’u dauddegau gan nad ydynt wedi rhannu profiad o fynd trwy ysgol y pentre’ gyda’i gilydd fel disgyblion a rhieni.

“Ein gobaith yw y byddwn yn denu pobl ifanc yr ardal trwy’r rhaglen gyffrous o weithgareddau eleni.

“Rydyn ni’n ddiolchgar am y grant sydd wedi ein galluogi i logi artistiaid proffil uchel na fyddem wedi gallu eu fforddio fel arall.”

Bydd y cerddor Celtaidd enwog Ceri Mathews a band cyfoes Jamie Bevan a’r Gweddillion yn cynnal Cyngerdd Glyndwr am 7.30pm Nos Sadwrn nesaf 15ed o Fedi, ac am 2pm y prynhawn hwnnw, byddant yn cynnal Gweithdy Chwarae Offerynnau’n amrywio o Bibau Celtaidd a’r ffliwt i gitâr acwstig modern.

Am 6.30pm y noson gynt (Gwener 14/9) bydd enillydd Cadair yr Urdd Aneirin Karadog yn cynnal gweithdy i ddysgu pobl ifainc i ganu, barddoni a rapio.

Bydd yr Ŵyl yn dechrau am 7pm Nos Iau 13/9 gyda sgwrs a ffilm am gysylltiadau Owain Glyndŵr â Dyffryn Teifi.