Wrth i BAFTA yng yng Nghymru baratoi ar gyfer pen-blwydd arbennig eleni yn 21 oed, cyhoeddir yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau blynyddol noddedig Academi Brydeinig Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ym meysydd darlledu, rhyngweithio a ffilm yng Nghymru.
Gwaith Cartref ar S4C, gan Fiction Factory, sy’n arwain y ffordd gyda chwe enwebiad
Mae’r ffilm Patagonia gan Marc Evans, gyda Matthew Rhys yn serennu, wedi cael pum enwebiad
Mae’r rhaglen ddogfen Code-Breakers: Bletchley Park’s Lost Heroes, a gynhyrchwyd gan BBC Cymru, hefyd wedi cael pum enwebiad
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ddydd Sul, 30 Medi.
Alex Jones o raglen The One Show fydd yn cyflwyno, a John Owen Jones, sydd â rhan yn Phantom of the Opera, fydd gwestai arbennig y noson.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r seremoni wobrwyo fawreddog hon a dathlu’r dalent orau ym myd ffilm, teledu a’r cyfryngau rhyngweithiol yng Nghymru,” meddai Alex Jones.
Mae’r enwebiadau ar gyfer yr Actor Gorau’n cynnwys Mark Lewis Jones (Baker Boys), Richard Harrington (Burton: Y Gyfrinach), Craig Roberts (Submarine) tra bod yr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau yn cynnwys Eve Myles (Baker Boys), Rhian Morgan (Gwaith Cartref) a Sharon Morgan (Resistance).
“Mae’n flwyddyn bwysig i BAFTA Cymru ac mae gennym gynlluniau cyffrous ac ambell syrpreis i fyny ein llawes ar gyfer digwyddiad arbennig eleni,” meddai Allison Dowzell, Cyfarwyddwr Dros Dro BAFTA yng Nghymru.
“Go brin fod ffordd well o ddathlu ein pen-blwydd yn 21 na thrwy gydnabod yr holl amser, egni, ymroddiad a’r gwaith caled sy’n rhan o greu a chynhyrchu cyfryngau creadigol, rhaglenni teledu a ffilmiau yng Nghymru.”