Mae Gwasg Gomer wedi ymateb yn chwyrn i honiadau o “fwlio” o fewn y cwmni yn dilyn trydedd streic gan rai o’r gweithwyr yno yr wythnos hon.
Cafodd streic arall ei gynnal ddydd Mawrth gan aelodau undeb Unite yng Ngwasg Gomer sy’n honni fod “diwylliant o fwlio” o fewn y cwmni.
Hon oedd y drydedd streic i gael ei chynnal gan aelodau Unite yn y cwmni cyhoeddi o Landysul.
Roedd yr aelodau hefyd wedi pleidleisio o blaid dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cyfarwyddwr Gomer, Jonathan Lewis.
“Nid yw cyfarwyddwyr Gomer wedi derbyn unrhyw gŵyn erioed am fwlio gan unrhyw aelod o’r staff,” meddai Gwasg Gomer mewn datganiad.
“Cytunodd Jonathan Lewis, y rheolwr-gyfarwyddwr, i drafod y cyhuddiad di-sail ym mhresenoldeb aelod annibynnol o ACAS ond gwrthododd David Lewis y cynnig.”
‘Diwylliant o fwlio’
Dywedodd David Lewis, swyddog rhanbarthol Unite, fod y “driniaeth ofnadwy a sbardunodd yr anghydfod” yn dal i barhau.
“Y mae cyfarwyddwyr Gomer ynghyd â chynrychiolwyr mewnol undeb Unite Gomer yn awyddus i ddod â’r anghydfod i ben,” ychwanegodd y datganiad gan Gomer.
“Ond mae David Lewis, swyddog Unite, yn benderfynol o wneud cymaint o niwed ag sy’n bosibl i Wasg Gomer trwy barhau â’r streic a gwneud datganiadau di-sail.
“Mewn cyfarfod mewnol gyda holl staff Gomer sy’n aelodau o Unite ar 22 Awst 2012, cafodd pob un o’r 13 ohonynt gyfle i fynegi barn am yr anghydfod wrth Jonathan Lewis a daethpwyd i gytundeb ynglŷn â dod â’r streic i ben,” medd y datganiad.
“Ond mewn cyfarfod pellach mewn gwesty lleol, perswadiodd David Lewis nhw i barhau â’r streic.”
Mae gan Gomer tua 70 o staff, ac mae 16 ohonyn nhw’n aelodau o undeb Unite.