Eric Maillaud
Fe ddatgelwyd heddiw bod tri o’r pedwar o bobl o Brydain gafodd eu saethu’n farw yn eu car gan ddyn arfog yn yr Alpau yn Ffrainc wedi cael eu saethu yn eu pennau.

Cafodd dyn, dwy ddynes a seiclwr eu lladd yn yr ymosodiad yn Annecy – mae’r erlynydd cyhoeddus Eric Maillaud wedi disgrifio’r ymosodiad fel un “anwaraidd”.

Cafodd merch 4 oed ei darganfod yn fyw o dan y cyrff  tua wyth awr ar ôl y gyflafan. Mae’n debyg nad oedd yr heddlu wedi ei darganfod am rai oriau wrth iddyn nhw aros am arbenigwyr fforensig i gyrraedd o Baris.  Mae’r ferch yn cael triniaeth seiciatryddol, meddai  Eric Maillaud.

Mae merch 7 oed, y credir sy’n chwaer i’r ferch fach, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Mae’n debyg ei bod hi wedi cael ei churo ac mewn coma.

Credir mai’r dyn a’r ddwy ddynes oedd yn y car BMW  oedd rhieni’r plant, ynghyd â pherthynas hŷn.

Yn ôl adroddiadau o Ffrainc, roedd y dyn, Saad al-Hilli, yn dod o  Claygate, ger  Esher yn Surrey. Mae Eric Maillaud wedi gwrthod cadarnhau ei enw ond dywedodd ei fod yn 50 oed ac yn dod o Irac yn wreiddiol ond yn ddinesydd Prydeinig. Roedd Saad al-Hilli yn gyrru’r car ar y pryd.

Roedd seiclwr o Brydain wedi dod ar draws y ferch 7 oed yn gorwedd ar ochr y ffordd a chafodd ei ganmol gan  Eric Maillaud yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw am helpu’r ferch a ffonio’r gwasanaethau brys.

Roedd Saad al-Hilli wedi bod yn aros mewn carafán yng ngwersyllfa Le Solitaire du Lac ger Saint-Jorioz.

Cafodd y car ei ddarganfod mewn maes parcio ger coedwig wrth ymyl Llyn Annecy sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr.