Mae bragdy o Gaerffili wedi ennill un gwobr gydag un math o’u cwrw yn Asia, mewn Cystadleuaeth Rhyngwladol Cwrw yn Janpan.

Enillodd Celt Efydd  gan gwmni The Celt Experience yn y categori ‘chwerw’.

Gyda llond llaw o staff, maen nhw’n llwyddo i “greu cwrw a chwerw da” yn ôl Tom Newman, Cyfarwyddwr y cwmni.

“Ry’n ni wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Gwir Flas Cymru yn 2011 ac eleni,  Gwobrau Cwrw Cenedlaethol SIBA a Gŵyl Gwobrau CAMRA,” meddai.

Mae’r cwrw ar gael mewn amryw o archfarchnadoedd, “ond mae yna dwf cynyddol yn y farchnad allforio, lle mae ein cynnyrch yn cael eu cludo allan i wledydd fel Japan, Rwsia, Tseina, Hong Kong, Taiwan, Awstralia, UDA, Canada, Chile a’r rhan fwyaf o Ewrop.”