Fe fydd y nofiwr Michael Jamieson wnaeth gipio’r fedal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn ymuno â llu o nofwyr elitaidd Prydain yn Abertawe ar ddydd Iau, 13 Medi, fel rhan o daith arbennig i ysbrydoli miloedd o blant i ddechrau nofio.
Bydd y daith yn cynnwys aelodau o’r timoedd nofio, deifio, nofio cydamserol, polo dŵr a sgwadiau nofio anabledd ar daith o gwmpas Prydain.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i filoedd o blant i gyfarfod â’u harwyr fel rhan o ymgyrch Nofio Prydain i geisio denu mwy o blant i’r pwll a’r ôl llwyddiant y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd.
Bydd y dydd yn cynnwys gweithgareddau dyfrol, dosbarthiadau meistr, ffotograffau ac amser i gael llofnod gan y sêr ar gyfer y plant lleol a chyfle i gystadlu i ennill gwobrau.
Dechreuodd y daith ym mis Awst yn Llundain, cyn cyrraedd Lerpwl , Glasgow a gwneud ei ffordd i Abertawe ar 13 Medi, ac yna i Coventry ar 17 Medi 17.