Mae’r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) wedi lansio adolygiad i brisiau tanwydd i sicrhau bod gostyngiad mewn pris olew yn cael ei basio mlaen i yrwyr.

Mae’r swyddfa wedi galw am wybodaeth gan y diwydiant olew, grwpiau moduro a chyrff defnyddwyr oherwydd pryderon am y prisiau sy’n cael eu codi am betrol a disel.

Mae llywydd yr AA Edmund King wedi croesawu penderfyniad yr OFT i ymchwilio i brisiau tanwydd.

Mae disgwyl i’r OFT gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad ym mis Ionawr.

Mae prisiau petrol wedi cynyddu 38% rhwng mis Mehefin 2007 a Mehefin 2012, tra bod prisiau disel wedi cynyddu 43% yn ystod yr un cyfnod.