Carlisle Circus nos Fawrth
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, wedi condemnio’r bobol sydd wedi bod yn creu terfysg yn ninas Belffast.

Mae gwleidyddion y dalaith wedi cael eu beirniadu am beidio gwneud mwy i dawelu’r terfysgoedd sydd wedi para am dair noson. Neithiwr cafodd plismyn eu taro eto gan dân gwyllt a cherrig yn ardal Carlisle Circus yng ngogledd Belffast, ond nid oedd gynddrwg â’r ddwy noson gynt pan gafodd dros  60 o blismyn eu hanafu.

Y bore ma roedd un o benaethiaid yr heddlu yn y dalaith wedi galw ar “bawb sydd â dylanwad” i ddod â’r cythrwfl i ben.

Mynnodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Will Kerr, y gallai plismyn gael eu lladd os na fydd y sefyllfa’n gwella.

Dynion o’r gymuned Unoliaethol sydd wedi bod yn creu cynnwrf ar ôl cael eu cythruddo gan orymdaith Weriniaethol ddydd Sul.

Mae pryder y  bydd tensiynau yn codi eto ar 29 Medi pan fydd Unoliaethwyr yn cynnal gorymdaith fawr yn Belffast.