Y Fenni
Mae ymgyrchwyr sy’n brwydro i gadw marchnad anifeiliaid Y Fenni ar agor yn cwrdd heno er mwyn trafod camau nesaf yr ymgyrch.
Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau cau’r farchnad anifeiliaid ac wedi dechrau ar y broses o godi marchnad newydd ym Mryngwyn ger Rhaglan.
Mae’r Cyngor nhw wedi rhoi caniatâd i gwmni Morrisons godi archfarchnad ar safle marchnad Y Fenni ac mae Gweinidog y Llywodraeth, Carl Sargeant, wedi diddymu hen ddeddfau oedd yn dweud bod rhaid cynnal marchnad yn y dref.
Ond mae ymgyrchwyr o fudiad Cadw Marchnad Anifeiliaid y Fenni yn dweud y dylai’r Cyngor fuddsoddi ym marchnad Y Fenni, ac maen nhw’n herio penderfyniad i ddod â’r farchnad i ben ac i ddiddymu Deddfau’r Fenni.
“Mae’r ffermwyr a’r dre eisiau ac yn haeddu marchnad wartheg wedi ei moderneiddio,” meddai Jenny Long o’r mudiad.
“Gallwn ni greu dyfodol gwell ar gyfer y farchnad a’r dref.”
Marchnad newydd yn ‘ddechreuad newydd’
Mae mudiad Cadw Marchnad Anifeiliaid y Fenni a’r Gymdeithas Ddinesig yn y dref yn cynnal y cyfarfod heno yng Ngwesty’r Angel, ac yn mynnu bod yr her gyfreithiol yn golygu nad yw popeth ar ben i’w hymgyrch nhw.
Ond dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Peter Fox, nad oes “rhwystr cyfreithiol yn ein hatal ni rhag codi marchnad anifeiliaid newydd ar gyfer Sir Fynwy.”
“Byddwn ni’n gwneud dechreuad newydd dros yr wythnosau nesaf, ac os byddwch chi ar y safle ym Mryngwyn ymhen blwyddyn fe welwch chi farchnad anifeiliaid weithredol,” meddai Peter Fox.