Prifysgol Fetropolitan Llundain
Mae Asiantaeth Ffiniau’r DU wedi cael ei feirniadu gan Aelodau Seneddol am achosi anrhefn yn y system fisas ar gyfer myfyrwyr – gan olygu bod nifer y mewnfudwyr oedd yn camddefnyddio’r system wedi cynyddu i gymaint â 50,000.

Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod yn “anhygoel” bod yr asiantaeth wedi cyflwyno rheolau newydd ar gyfer myfyrwyr yn 2009, fel bod eu fisas yn cael eu noddi gan brifysgolion, ond heb sicrhau bod y system yn cael ei reoleiddio’n iawn.

Mae ymdrechion i wella’r sefyllfa wedi golygu bod prifysgolion a sefydliadau addysgol eraill wedi gorfod delio gyda rhagor o fiwrocratiaeth wrth i newidiadau gael eu cyflwyno i’r system dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ôl y pwyllgor.

Prifysgol yn cymryd camau cyfreithiol

Yn y cyfamser mae Prifysgol Fetropolitan Llundain wedi addo “amddiffyn ei enw da” ar ôl cymryd camau cyfreithiol yn erbyn penderfyniad i ddiddymu ei hawl i noddi myfyrwyr o dramor.

Mae’r brifysgol yn bwriadu herio’r dystiolaeth gafodd ei gasglu gan Asiantaeth Ffiniau’r DU, fel bod miloedd o fyfyrwyr yn gallu parhau â’u hastudiaethau cyn gynted â phosib.

Roedd y Llywodraeth wedi diddymu hawl y brifysgol i noddi myfyrwyr rhyngwladol wythnos ddiwethaf ar ôl darganfod nad oedd gan nifer o’r rhai oedd yn astudio yn y brifysgol yr hawl i aros yn y wlad.