Mae rhieni disgyblion ysgol gynradd yng Ngwynedd yn atal eu plant rhag mynd ar dir yr ysgol er mwyn tynnu sylw’r awdurdodau at ddiffygion yn yr adeiladau.

Bwriad rhieni disgyblion Ysgol Groeslon ger Caernarfon yw dangos fod yr adeilad ddim yn ddiogel i’r plant sydd yn dychwelyd yn ôl i’r ysgol heddiw ar ôl gwyliau’r haf.

Bydd 75 o blant yn gorfod rhannu dau ddosbarth a neuadd.

Dywedodd tad un o’r plant a oedd yn cychwyn yn yr ysgol am y tro cyntaf heddiw wrth Golwg360, “Dydw i ddim isio i fy mab weld y protestiadau felly dw i’n ei gadw adref am y tro.

“Dydw i ddim isio i’r ysgol feddwl fy mod i’n eu herbyn nhw chwaith,” meddai’r tad nad oedd am gael ei enwi, “ond mae ‘na lot o rieni yn teimlo’n gryf am y peth.”

Dywedodd y tad fod rhai rhieni yn cael eu gwneud i deimlo “fel eu bod nhw yn erbyn y protestiadau” gan rai o drefnwyr y brotest os ydyn nhw’n penderfynu peidio ymuno yn y protestiadau.

Cafodd yr ysgol ei adeiladu yn y 1960au ond yn 2009 cafodd gwaith ei wneud i gryfhau rhannau hynaf yr adeilad.

Uned dros dro

Yn ystod y bythefnos nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn gosod uned ystafell ddosbarth dros dro yn Ysgol Y Groeslon.

“Fe wnaed y penderfyniad i osod yr unedau dros dro hyn ar ôl i archwiliadau manwl gan beirianwyr adeiladu annibynnol a gyflogwyd gan y Cyngor ddod i’r casgliad y dylid cau’r ystafelloedd dosbarth sy’n dyddio o’r 1960au yno, er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion a staff wrth i ragor o archwiliadau manwl gael eu cynnal,” medd datganiad gan Gyngor Gwynedd.

“Bydd y disgyblion yn cael eu dysgu yn neuadd yr ysgol am bythefnos cyntaf tymor yr hydref.”

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, sydd â chyfrifoldeb dros adeiladau ar Gabinet Cyngor Gwynedd, “Yn dilyn cynnal archwiliad arferol ac archwiliad manwl pellach yn ystod gwyliau’r haf, mae ein hymgynghorwyr wedi ein hysbysu fod cyflwr yr ystafelloedd dosbarth yma wedi dirywio.

“Oherwydd hyn, fel mesur rhagofal diogelwch, rydym wedi cau’r rhan hon o’r ysgol dros dro a rhoi trefniadau eraill yn eu lle.”

Cydymdeimlo

Ychwanegodd Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Siân Gwenllian, “Rwy’n cydymdeimlo’n fawr gyda’r plant, y rhieni a’r staff sy’n gorfod dygymod gyda’r sefyllfa yma.

“Oherwydd problemau cynyddol adeilad Ysgol y Groeslon mae creu ysgol ardal newydd sbon gyda’r cyfleusterau gorau posib ar gyfer y plant a’r staff yn flaenoriaeth uchel iawn gen i fel Aelod Cabinet Addysg y Cyngor,” ychwanegodd.

“Mewn egwyddor, mae arian ar gael ar gyfer adeiladu ysgol newydd yn yr ardal hon ar ôl i gais llwyddiannus gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru,” ychwanegodd.

“Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn glir y disgwylir i’r Cyngor gyflwyno Achos Busnes manwl sy’n dangos ein bwriadau o ran ad-drefnu addysg yn yr ardal cyn bod yr arian sydd ei angen ar gyfer y prosiect yn cael ei ryddhau.”

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Y Groeslon, y Cynghorydd Eric Merfyn Jones, “Wrth edrych i’r dyfodol…mae cyflwr truenus yr adeilad yn golygu na all yr uned dros dro ond bod yn ateb tymor byr.

“Rhaid inni rŵan bwyso ymlaen gyda’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Busnes am ystod ardal newydd yn gynnar ym mis Medi.”