Tia Sharp
Mae’r heddlu ac aelod o’r gymuned yn parhau i chwilio am y ferch ysgol Tia Sharp a ddiflannodd bum niwrnod yn ôl.

Bu’r heddlu’n chwilio coedwig ddoe yn agos at y safle lle cafodd y ferch 12 oed ei gweld y tro diwethaf.

Yn y cyfamser mae gwirfoddolwyr hefyd wedi ymuno yn y chwilio am Tia a ddiflannodd ar ôl gadael tŷ ei nain, Christine Sharp, yn New Addington, de ddwyrain Llundain tua hanner dydd ar ddydd Gwener.

Mae ei theulu wedi gwneud apel i’w dychwelyd adref yn ddiogel ac mae papur newydd y Sun wedi cynnig gwobr o £25,000 am wybodaeth a all helpu’r heddlu gyda’u ymholiadau.