Banc Lloegr
Mae disgwyl i Fanc Lloegr ddarogan na fydd yr economi yn tyfu o gwbl eleni wrth i’r dirwasgiad waethygu ac argyfwng parth yr ewro ddechrau brathu yn y DU.

Yn adroddiad chwarterol y Banc, mae disgwyl i’r llywodraethwr Syr Mervyn King ddweud na welwn ni dwf yn 2012. Roedd y Banc wedi rhagweld twf o 0.8% dri mis yn ôl a 2% flwyddyn yn ôl.

Roedd economi’r DU wedi crebachu mwy na’r disgwyl – 0.7%  – rhwng mis Ebrill a Mehefin. Mae disgwyl i’r Gemau Olympaidd roi rhywfaint o hwb i’r economi ond mae’r rhagolygon yn llwm.

Mae disgwyl i gyfraddau llog aros yn eu hunfan yn 0.5% am o leiaf rai misoedd eto.

Fe fydd adroddiad y Banc yn rhoi rhagor o bwysau ar y Canghellor George Osborne i lacio ei fesurau i dorri costau a chyflwyno mesurau a fydd yn helpu i dyfu’r economi.