Dai Greene
Mae landlord tafarn leol Dai Greene wedi dweud ei fod yn ystyried newid enw’r dafarn fel teyrnged i’r athletwr.

Methodd y Cymro â chipio medal yn ffeinal y 400m yn y Gemau Olympaidd yn Llundain neithiwr, ond fe ddywedodd Roland Cross, landlord tafarn ‘Harry Watkins’, fod cymuned Felinfoel ger Llanelli yn ei ystyried yn arwr o hyd.

Dywedodd: “Ry’n ni i gyd wrth ein boddau. Er ei fod e ond yn bedwerydd yn y ras, mae pobl Felinfoel yn hapus dros ben.

“Mae e’n bencampwr y byd ac ry’n ni i gyd mor falch ohono fe.

“Mae e a’i deulu’n galw i mewn yn aml.”

Mae’r dafarn wedi’i henwi ar ôl seren leol arall, a oedd yn gapten ar dîm rygbi Cymru ym 1904.

Ychwanegodd Roland Cross fod Dai Greene “tipyn bach mwy enwog na Harry nawr!”.