Neithiwr oedd y noson fwyaf yn hanes athletau Prydain, yn ôl cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain, yr Arglwydd Sebastian Coe.
Llwyddodd athletwyr Prydain i gipio tair medal aur o fewn llai nag awr gan ychwanegu at y ddwy fedal aur am rwyfo ac un arall am feicio yn y Velodrome a enillwyd yn gynharach yn y dydd. Dyma’r nifer mwyaf o fedalau aur i dîm Prydain eu hennill mewn un diwrnod ers 1908.
Uchafbwynt y diwrnod cofiadwy oedd buddugoliaeth Jessica Ennis yn yr heptathlon, pryd yr aeth y dyrfa o 80,000 yn wyllt yn y stadiwm wrth iddi ennill yr 800m ar ddiwedd deuddydd o gystadlu caled.
Wedyn, enillodd Greg Rutherford y fedal aur am y naid hir – y tro cyntaf i athletwr o Brydain ennill y gystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd ers buddugoliaeth enwog y Cymro Lynn Davies yn Tokyo yn 1964.
Funudau’n ddiweddarach, enillodd Mo Farah y ras 10,000m gan ddisgrifio’i fuddugoliaeth fel “moment orau’i fywyd”.
Yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, fodd bynnag, fe ddaeth taith tîm pêl-droed dadleuol ‘GB’ i ben ar ôl colli 5-4 i Dde Korea mewn ciciau o’r smotyn.
Dai Greene drwodd
Parhau y mae’r breuddwydion am ragor o fedalau i Gymru hefyd.
Fe fydd Dai Greene yn rhedeg yn rownd derfynol ras 400m y clwydi nos yfory ar ôl llwyddo o drwch blewyn i gymhwyso wedi perfformiad siomedig neithiwr. Ond methiant fu ymgais Rhys Williams ar ôl dod yn bedwerydd yn ei ras ef.
Yn y cyfamser, prif atyniad y Gemau Olympaidd heddiw fydd ras 100m y dynion, pryd y bydd Usain Bolt o Jamaica yn ceisio amddiffyn ei deitl.