Cynhadledd y wasg bore Sadwrn...
 Mae cyfanswm yr ymwelwyr ar nos Wener a dydd Sadwrn cynta’ Eisteddfod Bro Morgannwg, dros 20,000 – sydd yn fwy na’r niferoedd ar gyfer yr un deudydd yn yr un o eisteddfodau’r wyth mlynedd diwetha’.

Mae 20,727 wedi ymweld â maes Llandw hyd yma, o gymharu â 19,467 yn Wrecsam y llynedd; 17,838 yng Nglyn Ebwy yn 2010; 19,461 yn Y Bala yn 2009; 19,315 yng Nghaerdydd 2008; 17,719 yn Sir y Fflint yn 2007: 20,335 yn Abertawe; 17,383 yn Eryri 2005; a 17,183 yng Nghasnewydd 2004.

“Dw i wedi dotio efo’r niferoedd,” meddai Euryn Ogwen, Cadeirydd Pwyllgor Llên y brifwyl a Llywydd y Dydd heddiw.

“Dw i’n meddwl fod pobol Bro Morgannwg wedi darganfod rhywbeth yng nghymeriad Iolo Morganwg y maen nhw’n gallu gafael ynddo fo a chlosio ato fo.”