Mae llywodraeth Prydain wedi datgan pryder ar ôl i Iran gyhoeddi bod prawf i danio taflegryn balistig newydd wedi bod yn llwyddiannus.

Dywed y Swyddfa Dramor fod y prawf yn codi amheuon ynghylch honiadau Iran bod ei rhaglen niwclear ar gyfer cynhyrchu ynni’n unig, ac nid i ddibenion milwrol.

Roedd gweinidog tramor Iran, Ahmad Vahidi, wedi dweud bod y taflegryn Fateh-110 wedi ychwanegu gallu newydd at luoedd arfog y wlad.

“Daliwn i fod yn bryderus wrth i Iran barhau i ddatblygu technoleg taflegrau gyda’r bwriad amlwg o ymestyn cyrhaeddiad a chywirdeb ei daflegrau,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

Mae gan Iran amrywiaeth o daflegrau gan gynnwys rhai a allai gyrraedd Israel ac a allai mewn theori gludo arf niwclear.