Bydd blwch post yng Nghaerdydd a blwch post yn Wrecsam yn cael eu paentio’n aur i ddathlu llwyddiannau Geraint Thomas a Tom James yn y Gemau Olympaidd.

Bydd yn rhan o weithgareddau’r Post Brenhinol i ddathlu’r Gemau Olympaidd sy’n cyhoeddi stamp arbennig ar gyfer pob aelod o dîm Prydain sy’n ennill medal aur.

Mae stamp yn darlunio Geraint Thomas a chyd-aelodau ei dîm seiclo eisoes ar werth, ac fe dydd dau stamp yn darlunio rhwyfwyr llwyddiannus Prydain ar gael yfory. Hwn fydd y tro cyntaf i’r Post Brenhinol gyhoeddi stamp ar ddydd Sul.

Fe fydd fflyd o gerbydau’r Post Brenhinol yn dosbarthu’r stampiau i dros 400 o swyddfeydd post erbyn amser cinio yfory.

Fe fydd blwch post coch yn cael ei baentio’n aur ym mhob tref lle mae enillydd medal aur yn byw.