Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae brwydro ffyrnig yn Damascus heddiw wrth i wrthryfelwyr fynd ati o’r newydd i ymosod ar y ddinas.

Mae prifddinas Syria wedi cael ei hysgwyd gan ffrwydradau, a hofrenyddion yn hofran uwchben.

Mae’r brwydrau newydd yn awgrymu y gallai buddugoliaethau diweddar yr Arlywydd Bashar Assad fod yn rhai byrhoedlog wrth i wrthryfelwyr ad-drefnu eu lluoedd ac o bosibl orfodi’r llywodraeth i ymateb i ymosodiadau ledled y wlad.

Rhyfel cartref

Mae rhyfel cartref y wlad wedi dwysau dros yr wythnos ddiwethaf wrth i’r gwrthryfelwyr ganolbwyntio ar ddwy ddinas fwyaf y wlad, Damascus ac Aleppo.

Daw’r trais heddiw bythefnos yn unig ar ôl i’r llywodraeth drechu ymosodiadau gan wrthryfelwyr ar Damascus a oedd yn cynnwys brwydrau mewn rhannau o ganol y ddinas a ffrwydrad a laddodd bedwar aelod o gylch mewnol Bashar Assad.

Mae’r ymladd diweddaraf yn Damascus yn debygol o fod yn draul ar adnoddau’r fyddin wrth i’r ymladd barhau i’w ail wythnos yn Aleppo, 215 o filltiroedd i’r gogledd.

Fe ddechreuodd gwrthryfel Syria ym mis Mawrth 2011 gyda phrotestiadau heddychlon ar y cyfan yn erbyn y gyfundrefn, ond mae’r gwrthdaro wedi datblygu’n rhyfel cartref, a dywed ymgyrchwyr bod 19,000 o bobl wedi cael eu lladd.