Y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud wrth Golwg360 y bydd y Llywodraeth yn deddfu er mwyn gwahardd smygu mewn ceir – os na fydd ymgyrch i annog gyrrwyr rhag smygu yn gweithio.
Roedd Lesley Griffiths ar y maes er mwyn lansio pecyn Cychwyn Iach sy’n rhoi cyngor ar sut gall smygwyr eu hamddiffyn eu hunain a’u teuluoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.
“Os ydych chi’n rhiant sy’n smygu peidiwch gwneud hynny yn y car – mae’r gwenwynon yn aros o fewn y car ac yn aml mae’r mwg yn chwythu am yn ôl tuag at y plant,” meddai Lesley Griffths wrth Golwg ar faes yr Eisteddfod.
Cafodd ymgyrch Cychwyn Iach ei lansio gan y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell ym mis Chwefror ac mae’n galw ar rieni sy’n smygu i gadw’r awyr yn eu ceir yn lân wrth gludo plant.
Dywedodd Lesley Griffiths y bydd hi’n ystyried deddfu os na fydd yr ymgyrch yn dwyn pwysau ar rieni sy’n smygu.
“Rydym ni’n cynnal arolwg ar hyn o bryd i weld pa mor effeithiol yw neges yr ymgyrch ac mae deddfu ar y mater yn rhywbeth y byddwn ni’n ystyried,” meddai Lesley Griffiths.