Carwyn Evans, enillydd y fedal aur am gelf
Torri cysylltiad rhwng ei waith a’i fro sydd wedi arwain at y Fedal Aur am waith celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol i Carwyn Evans, y cerflunydd o Ddyffryn Teifi.

Ac mae’n dweud mai thema ei waith ar hyn o bryd yw ‘O gach a goleuni’ – gweithiau sy’n dangos tensiwn, er enghraifft rhwng siapiau onglog o bren caled a meddalwch cynffonnau ŵyn bach.

Mae hefyd yn dweud bod y gweithiau newydd yn arwydd o gyfeiriad gwahanol iddo. “Dw i’n trio colli unrhyw deimlad o berthyn i’r gwaith yr wy’n ei greu,” meddai wrth Golwg360.

Newid cyfeiriad

Mae hynny’n wahanol iawn i’r gweithiau a enillodd brif wobrau cynharach iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhoi negeseuon penodol am gyflwr cefn gwlad.

Bellach, mae eisiau i bobol weld y cerfluniau am yr hyn ydyn nhw eu hunain, ond ei fod yn gosod elfennau gwahanol at ei gilydd.

“Unwaith yr ych chi’n gosod dau beth at ei gilydd, rych chi’n creu naratif a thensiwn. Mae pobol yn gwybod bod rhywun wedi mynd trwy broses o benderfynu mai fel hyn y maen nhw i fod.”

Mae’r artist 32 oed yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ond yn dod yn wreiddiol o Landyfriog yng Ngheredigion, ger Castellnewydd Emlyn.

Y darnau celf

Mae un darn celf yn dangos dau ddarn o ffrâm bren yn gorffwys ar gynffonnau ŵyn bach sydd wedi eu torri – yn y cyferbyniad y mae’r tensiwn.

Mae un arall, ‘Cast, wedi defnyddio darnau gwastraff o glai crochenydd i greu torch – mae’r clai wedi dod o stiwdio cariad Carwyn Evans, Lowri Davies ac mae’r gwaith yn deyrnged i’r gwaith o greu crefft.

Y trydydd yw darn o fetel, tebyg i olwyn mewn  peiriant, gyda rhygnau o amgylch ei ymyl – ond roedd y patrwm wedi ei greu i ddechrau ar gyfrifiadur trwy chwarae ar dynnu llinellau o wahanol bwyntiau – y teitl ydy ‘Ei darganfod mewn oldau’ – fel ystyr yn tyfu o chwarae gyda geiriau.

“Dyw’r gwaith ddim yn efelychu dim byd,” meddai Carwyn Evans. “D’ych chi ddim yn sŵr o ba gyfnod y mae’n dod. Y broses oedd yn bwysig i fi.”