Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r seiclwr gafodd ei ladd pan fu mewn gwrthdrawiad â bws Olympaidd neithiwr.
Cafodd Daniel Harris, 28, ei ladd tu allan i’r Parc Olympaidd pan gafodd ei daro gan y bws oedd yn cludo aelodau o’r wasg i’r safle tua 7.42yh. Bu farw yn y fan a’r lle.
Cafodd gyrrwr y bws, sy’n 65 oed, ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Cafodd cwest i farwolaeth Daniel Harris ei agor a’i ohirio heddiw gan lys y crwner yn Poplar. Nid oedd ei deulu’n bresennol a chafodd y gwrandawiad ei ohirio tan 31 Awst. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yfory.
Roedd Daniel Harris yn dod o Ilford yn Essex ac mae’n debyg mai dim ond yn ddiweddar roedd wedi dechrau defnyddio ei feic i deithio i’w waith yn Llundain.
Daniel Harris yw’r degfed person i gael eu lladd mewn damweiniau yn ymwneud â beiciau yn Llundain eleni.