Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cadw cyfraddau llog yr un fath heddiw er gwaetha’r pwysau am ragor o gymorth brys i hybu economi bregus y DU.

Fe fydd cyfraddau llog yn aros yn 0.5%.

Mae’r Banc yn gobeithio y bydd cynllun gafodd ei lansio’r wythnos hon i’w gwneud yn haws i fusnesau fenthyca arian ac  i bobl gael morgeisi yn ddigon i leddfu’r economi.

Ond fe fu gostyngiad mwy na’r disgwyl o 0.7% yng nghynhyrchiant y diwydiant cynhyrchu rhwng Ebrill a Mehefin ddoe, gan awgrymu bod argyfwng yr ewro yn cael effaith ar y DU.