Valdimir Putin
Fe fydd Syria ar flaen yr agenda pan fydd Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn cwrdd â David Cameron heddiw.

Mae disgwyl i Putin ymweld â Downing Street cyn i’r ddau arweinydd wylio’r gystadleuaeth jiwdo yn y Gemau Olympaidd.

Yn ogystal â thrafod masnach a hawliau dynol, mae’r sefyllfa yn Syria yn debygol o hawlio’r sylw yn y cyfarfod, bythefnos ar ôl i Rwsia a Tsieina wrthod ymgais arall gan y Cenhedloedd Unedig i geisio datrys y tywallt gwaed yn y wlad.

Mae Mosgo wedi gwrthod ymuno â’r  Cenhedloedd Unedig yn eu condemniad o lywodraeth Syria a dywedodd David Cameron bod hynny’n “anfaddeuol”.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog annog Putin i ymateb i bryderon cynyddol am hawliau dynol y Rwsia yn dilyn y canlyniad dadleuol i’w ail-ethol yn arlywydd ym mis Mawrth.

Yn y cyfamser mae grŵp o gerddorion blaenllaw wedi galw ar Vladimir Putin i roi gwrandawiad teg i aelodau o grŵp pync sy’n wynebu cyfnod yn y carchar am berfformio “protest gyfreithlon”.

Mae’r grŵp, Pussy Riot, yn wynebu hyd at saith mlynedd dan glo ar ôl cynnal perfformiad mewn eglwys gadeiriol ym Mosgo yn galw ar y Forwyn Fair i ddisodli’r Arlywydd Putin.

Mewn llythyr at bapur newydd y Times mae’r cerddorion, sy’n cynnwys Jarvis Cocker, Pete Townshend, Martha Wainwright a Neil Tennant, yn dweud eu bod yn bryderus am y driniaeth mae’r tair dynes wedi ei gael ers iddyn nhw gael eu harestio.

Mae’r cerddorion yn galw am ryddhau Nadezhda Tolokonnikova, 22, Yekaterina Samutsevich, 29, a Maria Alekhina, 24.

Dywedodd Maer Llundain Boris Johnson ei fod yn disgwyl i David Cameron ddefnyddio’r cyfarfod heddiw i bwyso am gytundebau masnach rhwng y DU a Rwsia.