Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan gwmni RAJAR, mae 15,000 yn llai o bobol yn gwrando ar BBC Radio Cymru a tua 20,000 yn llai ar BBC Radio Wales.

Dangosai’r ffigyrau diweddaraf fod 131,000 o bobl yn gwrando ar Radio Cymru yn wythnosol.

Mae hynny’n 15,000 yn llai na’r adeg yma’r llynedd ac yn gyfatebol i ostyngiad o 10%.

“Byddwn yn cyflwyno nifer o newidiadau cyffrous i’r amserlen ym mis Hydref ac rydym yn hyderus y bydd y rhain yn apelio at gynulleidfa eang,” meddai llefarydd ar ran BBC Radio Cymru mewn ymateb i’r ffigyrau diweddaraf.

“Fel yr unig orsaf genedlaethol Gymraeg, rydym yn falch iawn o’r ystod eang o raglenni o safon rydym yn eu darparu ar gyfer y gwrandawyr.”