Chris Hoy
Syr Chris Hoy fydd yn cludo fflag Prydain yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain ddydd Gwener.

Hoy gludodd fflag Prydain yn seremoni cau’r gemau yn Beijing yn 2008.

Mae’r Albanwr wedi ennill pedair medal aur Olympaidd yn ystod ei yrfa.

Ni fydd fflag Cymru, y Ddraig Goch, yn cael ei gludo yn y seremoni agoriadol.

Dyw enw’r unigolyn fydd yn cynnau’r fflam yn y stadiwm ddim wedi ei ddatgelu eto.

Mae’n bosib mai Daley Thompson neu Syr Steve Redgrave fydd yn cael y fraint.

Enillodd Thompson, yr athletwr decathlon, y fedal aur ym Moscow ym 1980 ac yn Los Angeles ym 1984, tra bod Redgrave wedi ennill medalau mewn pump o’r Gemau Olympaidd.

Mae David Beckham, Kelly Holmes, Roger Bannister a Mary Peters ymhlith yr enwau eraill sydd wedi eu crybwyll.