Mae oedi o hyd at ddwy awr ar rai o heolydd Llundain ar ôl i lôn arbennig ar gyfer y Gemau Olympaidd gael ei hagor y bore yma.

Mae yna gyfyngiadau ar heolydd A12, A13 a’r A40.

Roedd yna rybudd i deithwyr bod oedi yn bosib cyn i’r lôn agor.

“Bydd nifer o’r prif heolydd i mewn i Lundain yn eithriadol o brysur fore Llun wrth i’r brifddinas barhau i gael ei thrawsnewid yn lleoliad chwaraeon a diwylliant anferth,” meddai llefarydd.

“Mae graddfa ddigynsail y newidiadau i heolydd Llundain, y ffaith fod 11,500 o athletwyr yn cyrraedd ar gyfer y Gemau, y cyfryngau a swyddogion a Thaith Gyfnewid y Ffagl, yn golygu y bydd cryn effaith ar drafnidiaeth yn y brifddinas.

“Bydd yr effaith hon yn parhau trwy gydol y Gemau Olympaidd.”

Mae cryn oedi yng nghanol Llundain hefyd yn ardaloedd Whitehall, Shaftesbury Avenue a Sgwâr Trafalgar.

Mae’r Mall hefyd ar gau, ac mae disgwyl oedi yn ardal Greenwich.

Bydd y lôn wedi agor yn llawn erbyn dydd Mercher.