Deiniol Jones
Cyn-ail reng Cymru, Deiniol Jones yw rheolwr newydd rhanbarth y Gleision.
Cynrychiolodd Jones y rhanbarth 175 o weithiau, a fe oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 100 o gemau dros y Gleision.
Symudodd i ranbarth y brifddinas pan gafodd y Rhyfelwyr Celtaidd eu diddymu yn 2004.
Roedd yn un o 15 o chwaraewyr y Gleision a gafodd eu rhyddhau ar ddiwedd y tymor diwethaf. Bu’n rhaid iddo roi’r gorau i chwarae ar ôl anafu ei ysgwydd.
“A dweud y gwir, doedd y swydd ddim wedi croesi fy meddwl felly roedd yn syrpreis braf pan ffoniodd Phil i ofyn i fi am y rôl,” meddai.
“Bydd ychydig yn rhyfedd ar ôl chwarae i’r Gleision cyhyd i beidio â bod allan ar y cae, felly mae’n braf cael aros yn rhan o’r cyfan mewn rôl sy’n addas ar fy nghyfer I ar hyn o bryd.
“Mae’n teimlo fel dechrau newydd ac mae’r awyrgylch sydd wedi cael ei greu yma dros yr haf yn bositif ac yn gyffrous iawn.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn ac rwy’n falch y galla i chwarae rhan fach yn yr hyn fydd, gobeithio, yn dymor llwyddiannus.”
Bydd Jones yn cydweithio â Rheolwr Gweithrediadau Rygbi’r rhanbarth, Gafyn Cooper.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Phil Davies: “Y peth pwysig i fi oedd edrych ar rai o’r chwaraewyr a oedd yn gadael y Gleision.
“Ro’n i’n teimlo ei bod hi’n bwysig cadw gafael ar rai o’r bobl rwy’n eu hystyried yn wir fois y Gleision.
“Bydd ei brofiad a’i wybodaeth o’r tîm a’r gynghrair yn amhrisiadwy i fi ac roedd hynny’n un o’r rhesymau allweddol pam ein bod ni wedi ei gadw’n rhan o’r tîm.”
“Gwnaeth e gyfraniad gwych ar y cae a nawr, dyma ran nesaf ei yrfa gyda’r Gleision.”
Mae Jones yn un o nifer o gyn-chwaraewyr y rhanbarth sydd bellach yn rhan o’r tîm rheoli a hyfforddi.
Cafodd cyn-wythwr y Gleision, Xavier Rush ei benodi’n hyfforddwr amddiffyn ddechrau’r wythnos, ac mae’r cyn-faswr, Lee Jarvis yn hyfforddwr sgiliau.
Mae Justin Burnell, a oedd yn cyd-hyfforddi’r tîm gyda Gareth Baber, bellach wedi gadael y rhanbarth.