Michael Laudrup
Bydd clwb pêl-droed Abertawe yn dechrau taith 12 niwrnod yfory yn nhalaith Colorado.
Cafodd 12 o bobl eu lladd mewn sinema ddydd Gwener y tu allan i ddinas Denver yn y dalaith.
Bydd Abertawe yn herio Colorado Rapids, San Jose Earthquakes a Ventura County Fusion yn ystod y daith er mwyn paratoi ar gyfer eu hail dymor yn yr Uwch Gynghrair.
Hwn fydd tymor cyntaf y rheolwr newydd, Michael Laudrup, wrth y llyw.
Mae ymosodwr Abertawe, Danny Graham wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd ei dîm yn parhau i symud yn y cyfeiriad cywir.
“Mae’r bois wedi dod yn ôl yn edrych yn dda, rydyn ni wedi bod yn gwneud ambell sesiwn ddwbl ac mae gennym ni dair gêm mewn 12 diwrnod yn America felly gobeithio y gallwn ni gael ymarfer da allan o hynny,” meddai.
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen ato; yn bennaf oll, rydyn ni’n mynd allan yno i weithio’n galed a pharhau i wneud beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn yr ymarfer cyn dechrau’r tymor.”