Mae cawodydd o law yn debygol o daflu dŵr oer ar seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd ddydd Gwener.

Roedd cyfarwyddwr y seremoni, Danny Boyle, wedi gobeithio am noson sych ar gyfer y sioe agoriadol – sy’n cynnwys cymylau artiffisial a fydd yn glawio dros y stadiwm.

Ond wedi wythnosau o dywydd garw, mae’r rhagolygon yn edrych yn fwy ffafriol ar y cyfan am yr wythnos sydd i ddod.

Mae disgwyl i Gymru aros yn sych, poeth a heulog am y rhan fwyaf o’r wythnos.

Erbyn diwedd yr wythnos mae disgwyl i’r tywydd fod yn fwy “ansefydlog”, yn ôl arbenigwr tywydd o MeteoGroup, gan arwain at law posib yn Llundain erbyn y diwrnod mawr ddydd Gwener.

Mae cwmni betio William Hill yn cynnig 66/1 y bydd y fflam Olympaidd yn cael ei ddiffodd gan y glaw yn ystod y seremoni agoriadol.