Mae dynes wedi marw mewn damwain ar draffordd yr M5 yn swydd Caerwrangon.

Roed y draffordd ar gau am fwy na pum awr yn dilyn y ddamwain.

Roedd fan Mercedes a char Mazda yn rhan o’r ddamwain, a ddigwyddodd o amgylch 10 o’r gloch neithiwr ar ffordd ddeheuol yr M5, rhwng cyffordd saith ger Caerwrangon a chyffordd wyth yn Strensham.

Roedd y ddynes a fu farw yn 63 oed ac yn dod o ardal Caerloyw. Hi oedd yn gyrru’r car Mazda.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r ddamwain ac yn apelio am dystion. Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain gysylltu â nhw ar 0121 626 1285.