Ceri, Luis, Rachel ac Iestyn
Mae profiad bythgofiadwy yn wynebu pedwar person ifanc o Gymru wrth iddyn nhw deithio i ben draw’r byd i gael blas ar wirfoddoli mewn gwlad dramor – a hynny ar gyfer cyfres deledu ar S4C.

Fe fydd Iestyn Wyn Lewis o Lannerch-y-medd, Luis Miles Evans o Fro Morgannwg, Rachel Lewis o Bontarddulais a Ceri Elsbeth Lewis o Bwllheli yn teithio i Uganda ym mis Awst lle byddant yn cael eu ffilmio ar gyfer ail gyfres Newid Byd.

Dros y misoedd diwethaf, mae cynhyrchwyr cwmni teledu Telesgop wedi ymgymryd â phroses ddwys o ddewis a dethol rhwng degau o bobl ifanc i gymryd rhan yn yr her unigryw hon.

“Mae’r pedwar sydd wedi cael eu dewis yn bobl ifanc weithgar a brwdfrydig iawn,” meddai Mererid Wigley, cynhyrchydd y gyfres.

“Dwi’n hyderus y byddan nhw’n gallu ymateb i’r her fydd yn eu hwynebu.  Dwi’n gobeithio hefyd y byddan nhw’n ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ddilyn eu hesiampl a mynd ati i helpu eraill yn eu cymunedau eu hunain.”

“Agwedd bendant o’r prosiect sy’n apelio yw’r syniad o greu newid ym mywydau pobl,” meddai Iestyn.

“ Mae’n anrhydedd pur cael gweithio gyda’r prosiect yn ogystal â gweithio mewn tîm brwdfrydig. Mi fydd gwirfoddoli mewn gwlad dramor yn anhygoel, i weld ein gwaith yn creu newid ym mywydau eraill!”

Bydd Rachel, Iestyn, Luis a Ceri yn teithio i Uganda mis nesaf am dair wythnos o waith gwirfoddol pwysig, dan ofal yr arweinydd profiadol Arwel Phillips.

Yno, fe fydd y pedwar yn cynorthwyo mewn prosiectau cymunedol pwysig er mwyn gwella ffordd o fyw i’r cymunedau. O adeiladu sied geifr i sefydlu llyfrgell, cynaeafu coffi a phlannu coed, fe fydd yn cynnig blas iddynt o ddiwylliant gwlad Uganda.

Byddent hefyd yn cydweithio â nifer o elusennau fel Dolen Ffermio, Size of Wales, Child of Hope, Pont a Masnach Deg Cymru ac yn canolbwyntio’n benodol ar brosiectau fydd yn helpu cymunedau yn ardal Mbale yn nwyrain y wlad.

Bydd Newid Byd yn dychwelyd i S4C yn ddiweddarach yn y flwyddyn.