Mae gwylnos wedi cael ei chynnal yn Aurora, Colorado, i gofio’r 12 o bobl gafodd eu lladd mewn sinema yn y dre.

Mi gafodd nhw eu saethu wrth wylio’r ffilm Batman diweddaraf, The Dark Knight Rises mewn dangosiad hanner nos arbennig.

Mae myfyriwr meddygol, James Holmes, 24 oed, wedi cael ei arestio yn dilyn y digwyddiad.  Bydd yn ymddangos o flaen llys bore Llun.

Mi gafodd 58 o bobl eu hanafu yn ystod y saethu. Mae 30 yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, gydag 11 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Llywodraethwr Colorado, John Hickenlooper, fod yr ymosodiad yn “weithred sydd y tu hwnt i ddisgrifiad.”