Bydd Tegwen yn hyrwyddo'r ymgyrch yn y Sioe
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf i ddangos eu cefnogaeth i ffermwyr llaeth Cymru trwy lofnodi llythyr agored i archfarchnadoedd a phroseswyr llaeth.
Trwy arwyddo’r llythyr mi fydden nhw’n dangos eu hanfodlonrwydd â’r effaith mae gostwng y pris sy’n cael ei roi i ffermwyr am eu llaeth yn ei gael ar fusnesau fferm yng Nghymru.
Mae’r llythyr hefyd yn pwysleisio’r angen i bawb sy’n rhan o’r diwydiant llaeth i gydweithio er mwyn sicrhau fod pris derbyniol a chynaliadwy yn cael ei dderbyn gan bawb.
Bydd model o fuwch o’r enw Tegwen yn y Sioe er mwyn denu sylw i ymgyrch Undeb Amaethwyr Cymru.
Dywedodd Dei Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth yr Undeb, fod y diwydiant llaeth mewn argyfwng.
“Mae dros 800 o ffermydd llaeth yng Nghymru wedi cau rhwng 2006 a llynedd,” meddai.
Roedd colli’r ffermydd hyn yn cael effaith andwyol ar fywyd cymunedol cefn gwlad, meddai.
Mae llaeth yn cael ei werthu ar gyfartaledd am 30c y peint. Mae’n costio 17c i’w gynhyrchu, ond dim ond 14c mae’r ffermwr yn ei dderbyn.
Mi wnaeth fferiwyr llaeth gynnal ail noson o brotest neithiwr trwy gynnal gwarchae mewn dwy ffatri prosesu llaeth – un yn llaethdy Robert Wiseman yn Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon, a’r llall mewn ffatri yn Foston, swydd Derby.
Roedd 400 o ffermwyr gyda 20 tractor wedi cymryd rhan yn y brotest yn Foston, ac roedd 200 yn protestio yn llaethdy Robert Wiseman.
Mae grŵp y Co-op wedi cyhoeddi y bydd yn talu mwy i’r ffermwyr sy’n rhan o’u grŵp am eu llaeth.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi heddiw eu bod am gynnal trafodaethau gyda ffermwyr llaeth yn y Sioe Frenhinol dydd Llun.
Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth Prydain, Caroline Spelman, a’r Gweinidog Amaeth, Jim Paice, fydd yn cyfarfod y ffermwyr ar faes y Sioe yn Llanelwedd.