Yr Arglwydd Harries, yr Athro Patricia Peattie a'r Athro Charles Handy
Mae adroddiad am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru yn dweud bod angen “ail-feddwl radical” er mwyn gwasanaethu pobl Cymru’n effeithlon.
Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi croesawu’r adroddiad. “Bydd yn rhaid i ni, fel eglwys, roi ystyriaeth ddifrifol i’r adroddiad hwn a’i argymhellion o’r plwyf i fyny i’r dalaith a phenderfynu ble i fynd oddi yma,” meddai.
Comisiynodd yr Eglwys yng Nghymru yr adolygiad flwyddyn yn ôl. Bu tri o bobl brofiadol mewn rheoli gweinidogaeth ac eglwysi’n archwilio ei strwythurau a’i gweinidogaeth ac fe ddderbynion nhw dystiolaeth mewn cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru a fynychwyd gan fwy na 1,000 o bobl.
Aelodau’r Grŵp Adolygu oedd: Yr Arglwydd Harries o Bentregarth, cyn Esgob Rhydychen, a gadeiriodd y Grŵp; yr Athro Charles Handy, cyn athro yn Ysgol Fusnes Llundain; a’r Athro Patricia Peattie, cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Lothian a chyn Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Episcopaidd yr Alban.
Mae eu hadroddiad yn gwneud 50 o argymhellion gan gynnwys plwyfi’n cael eu disodli gan “ardaloedd gweinidogaeth” llawer mwy fyddai’n cael eu gwasanaethau gan dîm o glerigwyr a lleygwyr, defnydd creadigol o adeiladau eglwys fel y gall yr holl gymuned eu defnyddio, hyfforddi lleygwyr i fod â mwy o ran mewn arwain yr eglwys, buddsoddi mwy mewn gweinidogaeth ar gyfer pobl ifanc, datblygu dulliau newydd o addoli er mwyn cyrraedd y rhai sy’n anghyfarwydd â gwasnaethau eglwys, ac annog cyfraniadau ariannol i’r eglwys drwy ddegymu.
Dywedodd yr Arglwydd Harries, “Canfu’r Tîm Adolygu fod yr Eglwys yng Nghymru yn gynnes a chroesawgar a bod llawer o bethau da’n digwydd. Ond er mwyn gwasanaethu pobl Cymru’n effeithlon, yn arbennig ei phobl ifanc, credwn fod angen peth ail-feddwl radical.”
Ac meddai Dr Barry Morgan, “Mae gennym ddyled enfawr i’r Grŵp Adolygu oherwydd y mae wedi amgyffred a deall llawer iawn o wybodaeth amdanom ni fel eglwys mewn cyfnod byr ac wedi gwneud sylwadau ac argymhellion craff a threiddgar iawn,” meddai.
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i aelodau’r Eglwys yng Nghymru, y bu nifer fawr ohonynt yn ymwneud yn frwdfrydig â’r broses.”
Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei gyflwyno i Gorff Llywodraethu’r Eglwys i’w ystyried.