Bydd cyfle i ddilynwyr y gyfres deledu boblogaidd Doctor Who fynd ar daith yn y Tardis mewn canolfan dwristiaeth newydd sydd wedi agor yng Nghaerdydd.

Mae’r Profiad Doctor Who yn y Bae yng Nghaerdydd wrth ymyl y stiwdios deledu newydd lle mae’r gyfres yn cael ei ffilmio.

Dywedodd Philip Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr digwyddiadau byw ar gyfer BBC Worldwide eu bod yn gobeithio denu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i’r ganolfan newydd.

“Ein nod yw dod yn un o’r deg prif atyniad twristiaeth yng Nghymru,” meddai, gan ychwanegu eu bod nhw’n cynnig profiad unigryw.

Mae’r ganolfan newydd yn cyflogi 50 o bobl, ac mae swyddogion twristiaeth yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb i economi Caerdydd.

Ymysg y rhai cyntaf i ymweld â’r ganolfan oedd y teulu Carrie o Ottawa yng Nghanada. “Mi gawson ni amser gwych. Dyma ein hymweliad cyntaf â Chymru ac yn sicr mi wnawn ni gysidro dychwelyd,” meddai Jeff Carrie.