Carwyn Jones yn defnyddio'r ystafell newydd
Mae ffrae wedi codi ynglŷn â swyddfa newydd oddi fewn Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystafell ym Mharc Cathays wedi cael ei hadnewyddu er mwyn ei defnyddio fel ystafell briffio a man i gynnal digwyddiadau.
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, wedi dweud ei fod yn flin fod y Llywodraeth wedi gwario gymaint ar yr ystafell. Mae’n disgrifio’r swyddfa fel “swyddfa’r Oval fechan” sy’n wastraff arian.
Mae’r ystafell yn cynnwys sêl wedi ei wneud o lechen sydd wedi costio £4,500 a darllenfa sydd wedi costio £1,800.
Ond mae’r Prif Weinidog wedi cyfiawnhau’r gwario.
Roedd yr ystafell yn awr yn cael ei defnyddio nid yn unig ar gyfer cynadleddau i’r wasg ond ar gyfer cynnal digwyddiadau, meddai. Roedd cynadleddau Carwyn Jones i’r wasg yn arfer cael eu cynnal yn ystafell briffio’r wasg yn y Senedd. Mi fyddan nhw yn awr yn cael eu cynnal yn yr ystafell hon ym Mharc Cathays.
“Dwi’n gwybod y bydd pobl yn dweud fod hyn yn ddrud a dwi’n derbyn hynny,” meddai Carwyn Jones. “Ond mi fydd yr ystafell hon yma am nifer fawr o flynyddoedd.
“Mi wnaethon ni ddefnyddio llechen o Gymru ar gyfer y sêl – nid yn unig yr opsiwn rhataf ond mae hefyd yn esiampl ohonon ni’n cefnogi’r diwydiant llechi yng Nghymru.”