Paul Tucker
Cafodd nifer o e-byst “allweddol” gafodd eu hanfon gan ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr Paul Tucker i gyn bennaeth banc Barclays Bob Diamond eu rhyddhau heddiw.

Mae’r e-byst yn rhoi tystiolaeth bellach bod gan Paul Tucker bryderon am sefyllfa ariannol Barclays pan oedd y banc yn cael ei gyhuddo o ddylanwadu ar gyfraddau llog Libor.

Mae Paul Tucker yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol o Bwyllgor Dethol y Trysorlys prynhawn ma i ateb cwestiynau am ei rôl yn helynt Barclays.

Roedd yr e-byst wedi dod i law aelod o’r pwyllgor, John Mann AS, oedd wedi gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Dywedodd John Mann bod y negeseuon yn “allweddol” ac mae wedi cyhuddo Banc Lloegr o oedi cyn eu trosglwyddo.