Heddlu De Cymru
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad  i ymateb ystafell reoli Heddlu De Cymru yn dilyn marwolaeth dynes mewn damwain.

Bu farw Jennifer Evans, 31, o Ferthyr Tudful, o’i hanafiadau ar ôl i’r fan roedd hi’n teithio ynddi fod mewn damwain ar 24 Mai eleni. Roedd y fan Daihatsu wedi ei dwyn.

Fe fydd ymchwiliad yr IPCC yn canolbwyntio ar y penderfyniadau a wnaed yn ystafell reoli Heddlu De Cymru.

Roedd Jennifer Evans yn teithio yn y fan pan fu mewn damwain am 4yb ar ffordd yr A4061 Mynydd Rhigos i Dreherbert.

Dywedodd llefarydd ar ran yr IPCC bod perchennog y fan, sy’n byw ym Merthyr Tudful, wedi ffonio’r heddlu i ddweud bod y fan wedi ei ddwyn am 3.30yb ar 24 Mai. Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am y fan a ddarganfuwyd tua 4yb ar yr A4061.

Cafodd gyrrwr y fan ei gludo i Ysbyty Tywysog Siarl ym Mherthyr Tudful.

Cafodd Jennifer Evans ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe ac yna ei symud i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle bu farw’r diwrnod canlynol.

Dywedodd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, Tom Davies eu bod yn estyn cydymdeimlad i deulu Jennifer.

“Mae ein hymchwilydd wedi cysylltu â’r teulu i esbonio pam ein bod yn cynnal ymchwiliad a byddwn yn cysylltu’n rheolaidd i ddweud beth sy’n digwydd.

“Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar weithredoedd a phenderfyniadau’r ystafell reoli.

“A bydd ein hymchwilwyr hefyd yn edrych ar hyn mewn perthynas â hyfforddiant lluoedd a’u polisïau.”

Fe fydd yr IPCC yn cyhoeddi eu casgliadau maes o law.

Mae dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar 24 Mai.