Mae ’na bwysau ar Gyngor Bro Morgannwg i wneud penderfyniad brys am ddyfodol cartref preswyl, sydd ag un preswylydd yn unig, sy’n costio £450,000 i’r trethdalwr i’w gynnal.
Roedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi argymell yn 2010 y dylid cau cartref Bryneithin yn Ninas Powys oherwydd pryderon ei fod yn costio gormod.
Ond bu’n rhaid cadw’r cartref ar agor ar ôl i deuluoedd y preswylwyr ddarganfod cytundebau yn dweud y gallai’r 12 o bobl oedd yn cael gofal yn y cartref aros yno nes eu bod yn marw.
Yn ôl adroddiadau, fe fu farw un o’r preswylwyr, Arthur Samuel, 91, ddydd Sadwrn diwethaf gan olygu mai dim ond un wraig 90 oed sy’n parhau yn y cartref.
Deellir ei bod yn cael gofal gan dîm o 13 o staff.
Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg ei fod yn ystyried yr holl opsiynau ar gyfer dyfodol y cartref.
Mae ’na bwysau ar y cyngor i wneud penderfyniad cyn gynted â phosib.
Mae Lance Carver, pennaeth gwasanaethau i oedolion ym Mro Morgannwg, wedi cadarnhau bod y gwariant ar Bryneithin yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn £450,000. Ond dywedodd na fyddai’r costau’r un fath gan mai dim ond un preswylydd oedd yno erbyn hyn.