Mae golygfeydd fel hyn yn gyffredin trwy Gymru a Lloegr y penwythnos yma
Mae 10 o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd mewn grym ers neithiwr mewn rhannau helaeth o Bowys a Bae Abertawe wrth i’r glaw trwm barhau.

Mae Cymru, hyd yma, fodd bynnag, wedi osgoi’r llifogydd gwaethaf o gymharu â’r hyn a gafwyd mewn rhannau o Loegr.

Yn ne-orllewin Lloegr y mae’r pryderon mwyaf, lle mae pobl wrthi’n cymryd camau brys i ddiogelu eu cartrefi a’u heiddo.

Yn ne Dyfnaint a rhannau dwyreiniol o Gernyw, mae rhybudd llifogydd difrifol mewn grym. Hwn yw’r math o rybudd y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei gyhoeddi pan mae disgwyl y math o lifogydd a allai roi bywydau mewn perygl.

Mae rhannau o ganolbarth Lloegr wedi cael eu taro’n ddrwg hefyd ac mae naw o rybuddion mewn grym yn yr Alban yn ogystal.

Caiff modurwyr ym mhob rhan o Brydain i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag pyllau o ddŵr ar ffyrdd.

Dros y 24 awr ddiwethaf ledled Prydain, mae cartrefi wedi gorlifo, ffyrdd wedi cau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei darparu wrth i’r glaw di-baid ddal i ddisgyn ar ddaear a oedd eisoes yn wlyb ar ôl tri mis o law trwm.