Mae aelod o’r Llu Awyr wedi marw a dau arall yn dal ar goll ar ôl i ddwy jet Tornado daro yn erbyn ei gilydd oddi ar arfordir yr Alban ddoe, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd y dyn fu farw yn aelod o’r Llu Awyr yn Lossiemouth yn Moray.

Mae pedwerydd aelod o’r criw mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llu Awyr nad  ydyn nhw’n disgwyl dod o hyd i’r ddau aelod arall yn fyw.

Fe benderfynodd y Llu Awyr a Gwylwyr y Glannau i beidio â pharhau i chwilio am y ddau aelod arall o’r criw oherwydd y tywydd gwael.

Fe fydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r digwyddiad.